Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 4 - Ty Hywel |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 29 Mai 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 11:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_500000_29_05_2012&t=0&l=cy |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Bethan Jenkins Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Yr Athro Vyvyan Howard, Prifysgol Ulster |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Abigail Phillips (Clerc) Sarita Marshall (Dirprwy Glerc) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2. P-04-341 Gwastraff a Llosgi
2.1P-04-341 Gwastraff a Llosgi – Tystiolaeth Lafar (drwy fideo-gynadledda)
Atebodd y tyst gwestiynau gan y Pwyllgor.
2.2P-04-341 Gwastraff a Llosgi – Trafod y dystiolaeth lafar a gyflwynwyd hyd yma
Cytunodd y Pwyllgor i:
Gyflwyno adroddiad ar losgi gwastraff a gwneud cais am drafodaeth yn y Cyfarfod Llawn.
Ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy yn gofyn iddo ystyried faint o gefnogaeth sydd i’r ddeiseb hon wrth ystyried llythyr y Pwyllgor sy’n galw ar i gynlluniau llosgydd Caerdydd i gael eu galw i mewn;
Ysgrifennu at y bobl sydd wedi rhoi tystiolaeth am y pwnc i’r Pwyllgor yn gofyn am eu barn ynghylch y model a ddefnyddiwyd er mwyn bod yn sail i benderfyniadau mewn perthynas â llosgyddion.
3. Deisebau newydd
3.1P-04-393 Grŵp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i:
Ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am ragor o wybodaeth am gefndir Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant a gofyn a fyddai’n fodlon gweithio gyda’r Gweinidog perthnasol o Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddatrys y problemau a ddisgrifiwyd gan y deisebwyr;
Ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros Drafnidiaeth i ofyn a fyddai hi’n fodlon gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatrys y broblem, gan anfon copi at Owen Paterson AS.
3.2P-04-394 Achubwch Ein Gwasanaethau - Ysbyty Tywysog Philip
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i:
Ysgrifennu at y deisebwyr i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r ffaith y bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar y mater;
Ysgrifennu at Gadeirydd a Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda i’w gwahodd i roi eu barn am yr ymgynghoriad i’r Pwyllgor mewn sesiwn dystiolaeth lafar;
Hysbysu’r prif ddeisebydd o’r camau y mae’r Pwyllgor yn eu cymryd ac ystyried rhoi gwybod am weithrediadau’r Pwyllgor yn ehangach unwaith y bydd dyddiadau’r ymgynghoriad yn hysbys.
4. Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
4.1P-03-220 Gostyngwch y terfyn cyflymder ar yr A40 ger y Fenni
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn pwerthynas â’r ddeiseb hon, a chytunodd i:
Gau’r ddeiseb;
Ysgrifennu at y deisebydd yn ailddatgan ymrwymiad y Gweinidog i ymgymryd â mesurau peirianyddol yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol, yn amodol ar argaeledd cyllideb.
4.2P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn pwerthynas â’r mater hwn.
Cytunodd y Pwyllgor i geisio gwybodaeth am y canlyniadau a’r pwyntiau gweithredu a ddeilliodd o’r cyfarfod a gynhaliwyd yn ddiweddar ac i ofyn a yw’r Gweinidog yn ymgysylltu â’r grŵp.
4.3P-04-377 Parhau i gael Tocynnau Teithio Rhatach ar Drafnidiaeth Gymunedol
4.4P-04-392 Deiseb ar Drafnidiaeth Gymunedol
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn pwerthynas â’r ddeiseb hon, a chytunodd i anfon cyhoeddiad y Gweinidog at y deisebwyr i gael eu sylwadau arno, unwaith y bydd y cyhoeddiad ar gael.
4.5P-04-380 Dewch yn ôl a’n Bws! Deiseb yn erbyn diddymu’r gwasanaethau bws o ddwyrain Llanbedr Pont Steffan, Cwm-ann a Phencarreg
Daeth gohebiaeth i law y Pwyllgor mewn perthynas â’r ddeiseb hon, a chytunodd i:
Ysgrifennu at Arriva yn gofyn am gadarnhâd am ddyfodol y gwasanaeth presennol;
Ysgrifennu at Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn gofyn am ei barn ynghylch a yw newidiadau i ddarpariaethau gwasanaeth bws yn tanseilio hawliau pobl hŷn yn y gymuned;
Ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn a oes unrhyw gynlluniau ganddo i adolygu’r sefyllfa o ran darparaiaethau’r Deddfau Trafnidiaeth sy’n gwahardd gwasanaethau a gaiff eu hariannu gan arian cyhoeddus rhag gweithredu mewn ardaloedd lle maent yn cystadlu â gwasanaethau masnachol, a gofyn iddo archwilio’r gwasanaeth Bwcabus yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
4.6P-04-366 Cau Canolfan Ddydd Aberystwyth
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn pwerthynas â’r ddeiseb hon, a chytunodd i ddychwelyd at y pwnc ar ôl ymweliad yr Aelodau â’r cyfleusterau newydd ym mis Mehefin.
4.7P-04-376 Aildrefnu Addysg ym Mhowys
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn perthynas â’r mater hwn, a chytunodd i ysgrifennu at y deiliad portffolio newyddd yng Nghyngor Sir Powys i’w hysbysu am y sefyllfa ac i ofyn am ei farn.
5. Papur i’w nodi
5.1P-03-301 Cydraddoldeb i’r Gymuned Drawsryweddol
5.2P-04-341 Gwastraff a Llosgi
6. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
6.1P-04-329 Rheoli sŵn o dyrbinau gwynt sy’n peri diflastod
Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad i’w gyhoeddi, yn amodol ar wneud nifer o welliannau i’r argymhellion.
Trawsgrifiad